James Davies AS | |
---|---|
Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd | |
Yn ei swydd | |
Dechrau 13 Rhagfyr 2019 | |
Rhagflaenydd | Chris Ruane |
Mwyafrif | 1,827 (4.9%) |
Yn ei swydd 8 Mai 2015 – 3 Mai 2017 | |
Rhagflaenydd | Chris Ruane |
Olynydd | Chris Ruane |
Manylion personol | |
Ganwyd | Llanelwy | 27 Chwefror 1980
Cenedligrwydd | Prydeinig |
Plaid wleidyddol | Ceidwadwyr |
Gŵr neu wraig | Nina |
Gwleidydd yw James Michael Davies (ganwyd 27 Chwefror 1980) sy'n Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd. Yn etholiad 2015, cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol (AS) ar gyfer Dyffryn Clwyd gyda 39% o'r bleidlais, o flaen yr aelod blaenorol, Chris Ruane a gafodd 38.4% o'r bleidlais. Daliodd Ruane y sedd am 18 mlynedd ond enillodd Davies o 237 pleidlais.
Yn etholiad brys 2017, daeth tro ar fyd, gyda James Davies yn colli i Chris Ruane o 2,379 gyda Llafur yn ennill 50.4% o'r bleidlais. Yn etholiad 2019 llwyddodd Davies i adennill y sedd gyda mwyafrif o 1,827.